Suzy Davies AC

Comisiynydd y Gyllideb a Llywodraethu

 

24 Mai 2019

 

Annwyl Suzy,

Y Wybodaeth Ddiweddaraf am y Cynllun Diswyddo Gwirfoddol a Llacio Trothwy Staff y Sefydliad

 

 

Diolch am eich llythyr dyddiedig 3 Mai 2019, mewn perthynas â chynllun diswyddo gwirfoddol Comisiwn y Cynulliad a llacio trothwy staff y sefydliad. Wedi ystyried y wybodaeth yn eich llythyr, mae nifer o bwyntiau y byddwn yn ddiolchgar o gael eglurhad pellach arnynt. 

 

Ym mis Tachwedd 2018, ysgrifennodd Prif Weithredwr y Cynulliad at y Pwyllgor Cyllid i'n hysbysu bod Comisiwn y Cynulliad wedi cytuno yn ei gyfarfod ar 5 Tachwedd 2018 i gynnig Cynllun Diswyddo Gwirfoddol (y cynllun) i'r holl staff. Yn y llythyr, cadarnhawyd y byddai'r cynllun yn cael ei gynnal yn unol â rheolau Swyddfa'r Cabinet a bod cyllideb o ‘hyd at £800,000’ wedi cael ei phennu. 

 

Yn eich llythyr dyddiedig 3 Mai 2019, cadarnheir gennych, ‘Yn dilyn hynny, cynyddwyd y gyllideb gychwynnol o £800,000 yng nghyfarfod y Bwrdd Gweithredol i £950,000 ac yna ei chynyddu ymhellach i £1.016 miliwn’. Nid yw'n glir sut y cymeradwyodd y Bwrdd Gweithredol y cynnydd yn y gyllideb nac ychwaith a gafodd ei ystyried/cymeradwyo gan Gomisiwn y Cynulliad yn dilyn hynny.

 

Yn ogystal, gwnaethoch egluro y byddai cyfanswm o 24 aelod o staff yn gadael y Cynulliad erbyn mis Medi 2019 a bod cost derfynol y cynllun ‘o fewn cyllideb gymeradwy Cynllun Swyddfa'r Cabinet o £1.5 miliwn’.

 

Wrth ystyried y mater hwn, nodais yng Nghanllawiau Swyddfa'r Cabinet fod yn rhaid i bob cynllun ymadael sylweddol ar gyfer 20 cyflogai neu fwy gael cymeradwyaeth Gweinidog yn Swyddfa'r Cabinet. Hefyd, lle mae ymadawiadau unigol sy'n cael eu cynnwys yn y cynllun sylweddol yn costio £95,000 neu fwy, mae gofyn eu cyfeirio yn ôl i Swyddfa'r Cabinet ar gyfer eu cymeradwyo ymhellach a rhaid i ffurflen arall gael ei llenwi ar gyfer pob un o'r ymadawiadau unigol cost uchel hyn.

 

Mae llythyr y Prif Weithredwr, o fis Tachwedd 2018, yn nodi y byddai'r cynllun yn ‘helpu i sicrhau y gall y Comisiwn barhau i ddarparu'r sgiliau, yr arbenigedd a'r gallu angenrheidiol i gefnogi'r Cynulliad drwy'r heriau penodol a ddaw yn sgîl Brexit a Newid Cyfansoddiadol, tra'n parhau i weithio, cyhyd ag sy’n bosibl, o fewn cap cyffredinol y sefydliad o 491 o swyddi'. Dywed mai un o nodau’r cynllun oeddsicrhau arbedion tymor hir lle y bo modd a/neu osgoi costau ychwanegol wrth fodloni prinder sgiliau’.

 

Fodd bynnag, yn eich llythyr diweddar, nodir gennych fod y cynllun wedi llwyddo o ran cyflawni ei nodau, ond na fydd yn sicrhau nifer ddigonol o swyddi i fodloni'r galwadau ychwanegol sy'n codi yn bennaf oherwydd Brexit, a nodir i Gomisiwn y Cynulliad gytuno ar 4 Mawrth 2019 ar gynyddu trothwy’r sefydliad o 6 swydd, o 491 i 497.

 

Mae'r Pwyllgor Cyllid yn cydnabod yn llawn y pwysau ariannol parhaus sy'n wynebu sefydliadau sector cyhoeddus a'r angen iddynt wneud arbedion cost sylweddol. Mae cynllun diswyddo gwirfoddol yn ffordd o gyflawni hyn, gyda'r disgwyliad o sicrhau arbedion tymor hwy. Fodd bynnag, byddem yn disgwyl i gynlluniau o'r fath roi gwybodaeth glir am yr arbedion disgwyliedig o'r gwariant cysylltiedig a rhoi syniad o'r cyfnod ad-dalu y mae'r sefydliad yn disgwyl gwneud arbedion hyn drosto.

 

Byddwn yn ddiolchgar, felly, pe gallech roi'r wybodaeth ganlynol:

 

-       manylion pellach ar y cynnig a ystyriwyd gan y Bwrdd Gweithredol a/neu Gomisiwn y Cynulliad wrth benderfynu ar ymgymryd â'r cynllun ymadael;

-       y meini prawf a ddefnyddiwyd i ddewis pobl ar gyfer gadael y sefydliad;

-       ym mha ffordd y cafodd y cynllun ei lywio gan adolygiad capasiti Comisiwn y Cynulliad ac i ba raddau yr ystyriwyd cynllunio'r gweithlu i sicrhau nad fyddai gostyngiadau yn nifer y staff yn effeithio'n ormodol ar adrannau;

-       cadarnhad o gymeradwyaeth Swyddfa'r Cabinet i'r gyllideb o £1.5 miliwn;

-       gwybodaeth am broses gymeradwyo'r Bwrdd Gweithredol i gynyddu'r gyllideb o £800,000 i £950,000 ac wedyn i £1.016 miliwn, ac a ystyriwyd/cymeradwywyd y codiadau cyllideb hyn gan Gomisiwn y Cynulliad;

-       nifer yr unigolion a gafodd neu sydd i fod i gael taliadau gwerth dros £95,000 a'r swm/symiau a dalwyd neu sydd i'w talu;

-       pa ystyriaeth a roddwyd i'r gwerth am arian, y cyfnod ad-dalu, cost gyffredinol, cadw sgiliau allweddol, a'r gallu neu'r ymdrechion a wnaed i adleoli'r unigolion a gafodd daliadau ymadael o £95,000 neu fwy;

-       a oedd unrhyw uwch-reolwyr a dderbyniodd y cynllun yn ymwneud â dylunio'r cynllun ac a oedd unrhyw wrthdaro buddiannau a allai fod wedi codi, gan gynnwys camau a gymerwyd i'w lliniaru;

-       yn seiliedig ar y chwe swydd ychwanegol i drothwy’r sefydliad, ynghyd â'r 24 o bobl sy'n gadael o dan y cynllun, sawl swydd yr ydych yn disgwyl ei harbed drwy'r cynllun;

-       pa fesurau sydd gan Gomisiwn y Cynulliad ar waith i fonitro lefel yr arbedion gwirioneddol a sicrheir gan y cynllun a phryd y gall roi diweddariad i'r Pwyllgor.

 

Edrychaf ymlaen at glywed gennych maes o law.

 

Yn gywir,

Llyr Gruffydd AC
Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid